Mae powlenni cafa yn bwysig i draddodiadau cymunedol cenhedloedd Polynesaidd. Ym 1986 bu Cymru ar daith i Foroedd y De am y tro cyntaf. Chwaraeodd Tîm Cymru 3 phrawf caled yn erbyn Ffiji, Tonga a Samoa. Cyflwynwyd y bowlen cafa hon i Dîm Cymru i nodi achlysur eu gêm brawf gyntaf yn erbyn Samoa.