Portread du a gwyn o'r bardd Cymraeg, Sarah Jane Rees, sy’n cael ei hadnabod wrth ei henw barddol 'Cranogwen'. Cafodd Rees fywyd amrywiol, fel morwr, athrawes, bardd, siaradwr cyhoeddus, ymgyrchydd, a golygydd y cyfnodolyn enwog, 'Y Frythones'.
Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd Cymreig John Thomas, sy’n adnabyddus am ei ffocws arbennig ar safleoedd, tirweddau ac enwogion Cymru. Prynodd Syr O M Edwards ei gasgliad o dros dair mil o negyddion ac fe’i defnyddiwyd i ddarlunio ei gyfnodolyn Cymraeg, 'Cymru'. Mae'r negyddion bellach yn rhan o gasgliad ffotograffig Llyfrgell Genedlaethol Cymru.