Loading

Shane Williams, gan David Griffiths

Griffiths, David2012

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

David Griffiths yw un o arlunwyr portreadau gorau Cymru. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad mawr o weithiau yr artist o Gaerdydd. Mae wedi peintio nifer fawr o aelodau mwyaf blaenllaw cymdeithas gyfoes Cymru.

Mae defnydd Griffiths o wyn cryf, metalig yn ei weithiau yn tynnu sylw'r gwyliwr. Mae’n dadlau nad ei fwriad yw creu dadansoddiad seicolegol o'i eisteddwr, ond i ddal gwir debygrwydd, a thrwy hynny efallai gwelir dealltwriaeth ddyfnach o'r gwrthrych yn dod i'r amlwg.

Mae'r portread yma a beintiwyd dros gyfnod o chwe mis yn dangos Shane Williams, arwr rygbi Cymru, yn eistedd yn ei ystafell wisgo yng Nghaerdydd cyn ei gêm olaf dros ei wlad yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr 2011. Mae neges i’r gwyliwr ar esgidiau’r chwaraewr rygbi. Mae yna ymdeimlad cryf o bresenoldeb yn y gwaith, fel petaem wedi dal y chwaraewr mewn hwyliau myfyrgar cyn ei gêm olaf.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites