Loading

Llyfr Offeren Sherbrooke

1310/1320

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Mae’r llyfr offeren prydferth hwn a wnaed o femrwn yn dyddio yn ôl i c.1310 - c.1320 ac mae’n tarddu o Ddwyrain Anglia. Fe'i hystyrir yn llawysgrif bwysig iawn gan ei bod yn un o’r esiamplau cynharaf o lyfr offeren o darddiad Seisnig.

Llyfr offeren a gynhyrchwyd gan yr Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol ar gyfer dathlu’r Offeren trwy gydol y flwyddyn yw Sarum Missal. Yn ôl William Marx credir bod Llyfr Offeren Sherbrooke yn un o’r esiamplau cynharaf o lyfr offeren o darddiad Seisnig, gan mai dim ond dau arall sydd yn ei ragddyddio. Yn wahanol i lyfrau offeren eraill o’r un cyfnod ceir yn y llawysgrif hon nifer o ddelweddau i gyfoethogi'r testun. Mae’n llawysgrif sydd wedi denu llawer o sylw yn ddiweddar gan fod ei haddurniad ynghyd ag arddull y darluniau a'r ffigurau a geir ynddi yn debyg i lawysgrif Sallwyr y Frenhines Mari sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig. Fel Sallwyr y Frenhines Mari, yr hyn sy'n rhagorol am Lyfr Offeren Sherbrooke yw'r nifer sylweddol ac anarferol o fân-ddarluniau lliwgar a phrydferth a geir ynddo.

Roedd y llawysgrif yn perthyn i lyfrgell teulu Sherbrooke yn Oxton, swydd Nottingham o'r 16eg ganrif hyd at y 19eg ganrif, a dyna sut y cafodd ei henw.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites