Loading

Cwpan Her De Cymru

1877

Welsh Rugby Union

Welsh Rugby Union
Y Deyrnas Unedig

Cwpan Her De Cymru yw'r Tlws hynaf yn hanes Rygbi Cymru. Chwaraewyd amdani gyntaf ym 1877. Chwaraewyd am y Gwpan mewn fersiynau gwahanol o gystadlaethau cenedlaethol gan glybiau hŷn ac iau hyd at y rhyfel byd cyntaf. Ar ôl saib mewn gemau rygbi yng Nghymru oherwydd y Rhyfel a diffyg awydd am gystadleuaeth genedlaethol, cyflwynwyd y gwpan wedyn i Horace Lyne ym 1932, a oedd wedi bod yn Llywydd ers tro, a dychwelwyd i URC gan deulu Lyne ym 1947.
Fe'i troswyd yn dlws Cenedlaethol 7 bob ochr URC ym 1966 ac fe’i henillwyd ddiwethaf gan Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg ym 1982. Cafodd ei harddangos ar Gampws Cyncoed nes i’r gwpan fynd ar goll yn ystod gwaith adeiladu. Fodd bynnag, yn 2021 fe’i dychwelwyd i URC ar ôl iddi gael ei darganfod yn atig Leighton Davies, cyn-gyfarwyddwr Rygbi Athrofa De Morgannwg gan ei weddw Pam a’i frawd Paul, ar ôl i Leighton farw.

Show lessRead more
  • Title: Cwpan Her De Cymru
  • Date Created: 1877
  • Rights: WRU
Welsh Rugby Union

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites