Canolbwyntiodd John Chessell Buckler, fel ei dad John Buckler (1770-1851), ar ddarlunio adeiladau gan lunio llawer o ddyfrlliwiau cain o blastai Prydeinig, adfeilion a safleoedd hynafol fel eglwysi. Mae ei ddarluniau'n gofnod manwl gywir o sut yr edrychai adeiladau ar adeg benodol mewn amser ac maent felly o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn ymchwilio hanes ardal neu hynafiaethau.