Gellir dadlau mai Kyffin oedd yr arlunydd Cymreig enwocaf diwedd yr 20fed ganrif. Roedd gan y Llyfrgell Genedlaethol berthynas agos â Kyffin, a daeth carfan fawr o'i ystâd i'r Llyfrgell ar ôl ei farwolaeth yn 2006. Y Llyfrgell Genedlaethol sydd berchen ar y nifer fwyaf o weithiau Kyffin Williams yn y byd.