Loading

Strate Marcella (Cofnodion Ystad Wynnstay)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Ychydig o olion abaty Sistersaidd Ystrad Marchell, ger y Trallwng, sydd i'w gweld heddiw, eto y mae tystiolaeth y siarteri yn dangos fod hwn wedi bod yn dŷ crefyddol cyfoethog a phwysig ym Mhowys yr oesoedd canol.

Goroesodd pedwar deg a naw o siarteri un ai wedi'u cyhoeddi gan yr abaty neu yn cyflwyno breintiau iddo o adeg ei sefydlu hyd at adeg ei ddiddymu yn 1536. Cedwir y grŵp mwyaf o ddigon ymhlith Archifau Ystad Wynnstay, sef tri deg a phump ohonynt. Fel archif yn cynnwys siarteri gwreiddiol gan dywysogion brodorol Cymreig, nid oes tebyg i grŵp Wynnstay; fel archif o siarteri yn perthyn i abaty yng Nghymru, dim ond archif abaty Margam, Morgannwg sydd yn rhagori arni.

Yma gwelir siarter yn cadarnhau rhodd o diroedd gan Hywel ap Hywel i abaty Ystrad Marchell.

Show lessRead more
  • Title: Strate Marcella (Cofnodion Ystad Wynnstay)
  • Location: Y Trallwng, Powys, Cymru
  • Location Created: Y Trallwng, Powys, Cymru
  • Type: Siarter
  • External Link: Gweld yn Oriel Ddigidol LlGC
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites