Mae gan waith Shani Rhys James swyn sy’n ddigyffelyb i waith artistiaid eraill. Mae hi'n un o artistiaid ffigurol cyfoes amlycaf Cymru ac mae hefyd yn enwog yn rhyngwladol.
Mae ‘Studio with Gloves’ yn crynhoi i’r dim waith Shani Rhys James sydd yn fawr, pwerus, amrwd, emosiynol, beiddgar, di-lol, egnïol, heriol ac weithiau’n annifyr, lle mae elfennau dychmygus ac arsylwadol yn cyd-fodoli’n aml. Yn ei chyfansoddiadau haniaethol mae’n chwilio am y gwirionedd ac mae'n adlewyrchu ei gweledigaeth o'r cyflwr bydol. Mae ‘Studio with Gloves’, fel llawer o'i gweithiau, yn hunan-bortread lle mae'r cyflwr seicolegol yn ganolog i'r gwaith. Yn y gwaith yma mae'r artist yn ymddangos yn fach yn ei stiwdio anhrefnus.
Mae Shani Rhys James yn cydnabod ei bod yn rhoi delwedd braidd yn enigmatig yn ei gweithiau gan roi rhyddid i’r gwyliwr eu dehongli fel y mynna.