Ym mis Mawrth 1846, rhoes William Williams, yr Aelod Seneddol dros Coventry (ond brodor o Lanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol), gynnig ger bron aelodau Ty'r Cyffredin, yn galw am ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru. Ymwelodd tri chomisiynydd a'u cynorthwywyr â phob ardal yng Nghymru. Daeth y gorchwyl o gasglu tystiolaeth ac ystadegau i ben erbyn 3 Ebrill 1847, a chyflwynodd Lingen ei adroddiad i'r Llywodraeth ar 1 Gorffennaf y flwyddyn honno yn dair o gyfrolau sylweddol.
Ni ellir gor-bwysleisio gwerth yr adroddiad hwn i haneswyr cymdeithasol Cymru canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oblegid ceir toreth o wybodaeth ynddo, nid yn unig am gyflwr echrydus cyfundrefn addysgol y wlad, ond am safonau byw a gweithio yn yr ardaloedd diwydiannol ac yn yr ardaloedd gwledig. Ceir ynddo hefyd sylwebaeth uniongyrchol ar gyflwr crefydd a moes trigolion y wlad.
Achosodd yr adroddiad helynt a chynnwrf mawr drwy Gymru gyfan, a hynny'n bennaf oherwydd sylwadau sarhaus y tri chomisiynydd Anglicanaidd di-Gymraeg ar yr iaith Gymraeg, ar Ymneilltuaeth ac ar foesau'r Cymry. O ganlyniad bu 'Brad y Llyfrau Gleision' fel y daethpwyd i adnabod yr helynt, yn drobwynt yn hanes Cymru.