Bu ddiddordeb mawr mewn gwrachyddiaeth erioed. Mewn cymdeithasau cyn-lythrennog credid bod dewiniaeth "wen" yn medru cynnig iechyd a bendithion nad oeddent ar gael trwy grefydd neu feddyginiaeth. Ar y llaw arall roedd dewiniaeth "ddu" yn niweidiol ac yn gofyn am weithredu ymwybodol ddrwg megis melltithio cymydog neu wneud niwed i anifail.
Yn ystod y canol oesoedd datblygodd syniadaeth newydd am ddewiniaeth gan ddiwinydion a chyfreithwyr, sef y cysyniad o gytundeb â'r diafol. Dadleuwyd fod gwrachod yn derbyn eu pwerau trwy gysylltiad uniongyrchol â'r diafol. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, daethpwyd i ofni gwrachyddiaeth a heresi grefyddol fel ei gilydd ac mewn rhai ardaloedd troes hyn yn ymgyrchoedd erlid i geisio dileu pob arlliw o wrachyddiaeth yn llwyr. Ceir tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr i ddangos fod gwrachod wedi eu herlyn yng Nghymru.
Yn yr achos cyntaf ceir William Griffith, morwr o Bictwn, yn cyhuddo Dorothy Griffith o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes modd gwybod bellach pam yn union y cafodd y cyhuddiad ei wneud, ond mae'n debyg fod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd.