Dywedodd Kyffin Williams mai hwn yn un o'r gweithiau gorau a beintiodd erioed. Mae'n darlunio un o'i hoff olygfeydd o ffermwyr gyda'u cŵn defaid wedi dod at ei gilydd ar ben mynydd y Glyder Fach yng ngogledd Cymru yn yr eira o dan awyr dymhestlog.
Daeth defnydd Kyffin o baent olew trwchus, wedi ei osod gyda'i gyllell palette ar y cynfas, yn nodweddiadol o’i arddull a daeth yn eiconograffig. Gellir teimlo egni grymus Kyffin yn llifo o’i waith drwy ei ffordd unigryw o daenu’r paent. Dywedodd Kyffin Williams yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’ mai ei nod mewn bywyd oedd cofnodi tir a phobl ei blentyndod yn Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru. Roedd yn wir yn arlunydd mynegiadol a honnai pan fyddai’n caniatáu iddo'i hun gael ei '... sgubo i ffwrdd mewn twymyn o afiaith neu hyd yn oed ddicter, gorau oll y byddai’r canlyniad terfynol; tra’r oedd meddwl yn ymwybodol yn ddieithriad yn drychinebus'.