Loading

Chaucer Hengwrt

Geoffrey Chaucer (c.1343-1400)1395/1405

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

‘Chaucer Hengwrt’ (The Hengwrt Chaucer) yw un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ystyrir Geoffrey Chaucer (ganed cyn 1346 - bu farw yn 1400), awdur y 'Canterbury Tales', y mwyaf o feirdd Saesneg yr Oesoedd Canol. Cydnabuwyd ei athrylith yn ystod ei oes a phrofodd ei waith yn ddylanwadol ar lenyddiaeth Saesneg drwy gydol y bymthegfed ganrif. Ceisiodd llawer ddynwared ei gyfuniad unigryw o hiwmor, realaeth, ei hyfedredd fel bardd a'i reolaeth ar ddialog a chymeriadu dros y canrifoedd, ond methu fu eu hanes. Nodweddir ei waith â hiwmor, sydd weithiau'n hiwmor garw, aflednais, ac y mae ef ei hun yn gyff gwawd yr hiwmor hwnnw o bryd i'w gilydd.

Mae cysylltiadau Cymreig y llawysgrif gynnar a phwysig hon o Chwedlau Caergaint yn adlewyrchu patrwm cyffredin iawn yn hanes diwylliannol Cymru. O'r Oesoedd Canol diweddar ymlaen, cafodd llawysgrifau Saesneg eu darllen, eu casglu, eu copïo a'u trysori yng Nghymru, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg ceir tystiolaeth yn aml fod llawysgrifau Saesneg ym meddiant Cymry.

Cyflwynodd Syr John Williams lawysgrifau Peniarth, gan gynnwys ‘Chaucer Hengwrt’, yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol a oedd newydd ei sefydlu yn 1909. Bu’n un o brif drysorau'r Llyfrgell fyth ers hynny, ac fe’i cynhwyswyd, ymysg llawysgrifau eraill Peniarth, ar ‘Restr Cof y Byd’ Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn 2010.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites