Ysgrifennwyd Llyfr Pasiwn y Teulu Vaux (Peniarth 482D) ar femrwn gan un scrifydd, a hynny yn Llundain o bosibl, unai yn niwedd y 15fed ganrif, neu ar ddechrau’r ganrif ddilynol. Mae’n un o lawysgrifau canol-oesol harddaf y Llyfrgell, ac yn enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol. Mae iddi bwysigrwydd hefyd oherwydd ei chyswllt posibl â’r brenhinoedd Harri VII a Harri VIII. Mae'r ddelwedd yn dangos Harri VII yn derbyn y llawysgrif fel rhodd. Yn y cefndir mae Harri VIII fel plentyn yn wylo dros farwolaeth ei fam. Mae ei chwiorydd, Mary a Margaret, yn eistedd yn y blaen.