Loading

Vase of Flowers, by Gwen John

Gwen John1910au

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Cysgodwyd Gwen John gan enwogrwydd ei brawd iau yr artist Augustus John (1878-1961) yn ystod ei bywyd. Erbyn heddiw mae’n derbyn canmoliaeth ryngwladol fel un o'r artistiaid modernaidd cyntaf gan ragori ar enwogrwydd ei brawd.

Crëwyd y darlun olew ar fwrdd hwn yn yr arddull o beintio sych gyda brwsh impasto ym Mharis, o bosibl wrth i’w pherthynas â Rodin ddod i ben, ac ar ôl marwolaeth sydyn ei chwaer-yng nghyfraith Ida John, gwraig Augustus ym 1907. Gwnaeth Gwen John, gydag anogaeth Rodin, wneud ymdrech hunanymwybodol i ailgydio mewn peintio yn ystod y cyfnod hwn, gan greu rhai o’i lluniau mwyaf adnabyddus, tra'r oedd hi ar yr un pryd yn brwydro yn erbyn iselder a salwch ysbeidiol. Roedd hyn yn y cyfnod cyn iddi ymddiddori fwyfwy yn y ffydd Gatholig. Mae cynnwys y darlun yn gadarn a chytbwys, o achos y ffurfiau a’r siapiau geometrig solet. Mae ymdeimlad o lonyddwch yn perthyn i'r darlun, ond mae yma hefyd ymdeimlad o anesmwythyd oherwydd y dilledyn sydd wedi cael ei daflu dros ddarn o ddodrefn yn y cefndir. Mae ei gwaith yn ein hatgoffa o beintio ôl-argraffiadol, gan iddi ddefnyddio strociau brwsh bach ac arlliwiau clos. Mae’n gwneud marciau hyderus ac mae ei defnydd o liw a thôn yn llawn mynegiant, heb orwneud y golau a’r tywyll.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites