Mae'r "Drych Cristianogawl" yn enghraifft o lyfr Cymraeg Catholig cynnar a dyma'r llyfr cyntaf i'w argraffu ar dir Cymru.
Rhaid oedd argraffu llyfrau mudiad gwrthddiwygiad y 16 a'r 17 ganrif naill ai ar weisg tramor neu ar rai cudd yn yr ynysoedd Prydain gan fod y gyfraith yn gwahardd argraffu llyfrau Catholig yn Lloegr. Ymdrechodd rhai o Gatholigion Cymreig y cyfnod i drefnu argraffu a chyhoeddi nifer bychan o lyfrau Cymraeg i'w cynorthwyo gyda'u gweithgaredd cenhadu. Y llyfr Catholig Cymraeg cyntaf i'w argraffu ar y Cyfandir oedd "Athrauaeth Gristnogaul" Morys Clynnog (Milan, 1568) a chredir mai'r cyntaf o'r dyrnaid bychan o gyfrolau i gael eu hargraffu ar weisg cudd yng Nghymru oedd "Y Drych Cristianogawl". Cynnyrch gwasg ddirgel a leolwyd mewn ogof ar Benrhyn Rhiwledyn ger Llandudno ydyw.