Loading

Yr Arwr, Hedd Wyn

Evans, Ellis Humphrey1917

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig

Yma ceir llawysgrif o awdl ‘Yr Arwr’ yn llaw’r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917) a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn dilyn ei farwolaeth yn 1917. Ystyrir Hedd Wyn yn un o feirdd amlycaf Cymru, ac ystyrir ‘Yr Arwr’ gan lawer fel ei gerdd fwyaf nodedig.

Yn Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn weithio ar gyfansoddi ei awdl ‘Yr Arwr’, cyn ei orfodi o ganlyniad i Ddeddf Orfodaeth Filwrol 1916 i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917.

Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Fleur-de-lis’, postiodd yr awdl o bentref Fléchin yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 1917.

Ar 31 Gorffennaf 1917, fe laddwyd Hedd Wyn ar faes y gad yng nghaeau Fflandrys, a hynny ym mrwydr Cefn Pilkem ger Ieper (Ypres). Pan alwyd ar ‘Fleur-de-lis’ i ddod i dderbyn ei wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, ni chododd unrhyw un a bu rhaid i’r Archdderwydd Dyfed hysbysu’r dorf o farwolaeth y bardd ar faes y gad. Gorchuddiwyd y gadair â gorchudd du ac o hynny ymlaen cafodd Eisteddfod Penbedw 1917 ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu.

Show lessRead more
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Get the app

Explore museums and play with Art Transfer, Pocket Galleries, Art Selfie and more

Home
Discover
Play
Nearby
Favourites