By Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Ymchwil am y Greal Sanctaidd
Mae'r ymchwil am y Greal Sanctaidd yn chwedl ganrifoedd oed am wrthrych gyda phwerau gwyrthiol sy'n darparu hapusrwydd, ieuenctid tragwyddol neu gynhaliaeth doreithiog diddiwedd. Dywed nifer o'r straeon fod y Greal yn eiddo i Iesu Grist ei hun. Yn ôl straeon eraill, fe'i lluniwyd o'i groes. Mae'r Greal yn thema bwysig yn llenyddiaeth Arthuraidd. Mae gan Arthur ei hun gysylltiadau cryf â Chymru.
Nanteos Cup (1300/1500) by UnknownLlyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Cwpan Nanteos yn un o gannoedd o eitemau sydd wedi eu cysylltu â'r Greal Sanctaidd, felly beth yw hanes y ddysgl druenus yr olwg hon?
Abaty Ystrad Fflur
Er gwaethaf diffyg tystiolaeth gymhellgar, mae'n debygol fod Cwpan Nanteos o gryn bwysigrwydd i Fynachod Abaty Ystrad Fflur yng Nghanolbarth Cymru. Roedd yr Abaty yn safle o ysgolheictod mawr, yn lle cai llawysgrifau eu hysgrifennu a lle y byddai tywysogion Cymreig anghytûn yn dod i gyd-drafod. Rhywbryd yn dilyn Diddymiad y Mynachlogydd yn y 1530au, daeth y Cwpan i fod yn eiddo i berchnogion Plas Nanteos gerllaw.
Nanteos, co. Cardigan the seat of W.E. Powell, Esq. M.P (1852) by Stannard and Dixon lithographerLlyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn Nanteos daeth y cwpan yn hynodbeth, crair i ddiddanu'r ymwelwyr fyddai'n aros ym mawredd yr hen blas. Erbyn y 19eg ganrif roedd perchnogion Nanteos yn gwneud honiadau mawr am y llestr bychan.
Nodweddion gwellhad hudol
Credir i'r cwpan gael ei arddangos gyntaf gan berchennog yr ystad George Ernest John Powell mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Archaeolegol Gambriaidd a gynhaliwyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn 1878.
Report of a meeting of the Cambrian Archeological Society (1878) by George Ernest John PowellLlyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn y cyfarfod adroddwyd honiadau fod gan y cwpan bwerau gwellhad a'i fod wedi ei lunio o ddarn o'r Groes, ac fe'u cyhoeddwyd yng nghylchgrawn y gymdeithas; Archaeologica Cambrensis.
Nanteos Cup (1300/1500) by UnknownLlyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cwpan wedi cael ei astudio yn fwy manwl gan arbenigwyr. Mae wedi ei wneud o bren llwyfen lydanddail, coeden gynhenid i Brydain ac Ewrop, ac mae'n debygol mai Cwpan Masarn ydyw. Mae tystiolaeth fod gan Fynachod mewn abatai Prydeinig eu cwpanau masarn eu hunain. Roeddent yn boblogaidd rhwng yr 11eg a'r 16eg ganrif.
Ers y 19eg ganrif honwyd fod gan y Cwpan bwerau goruwchnaturiol i wella. Benthycwyd y Cwpan i gleifion yn gyfnewid am ernes werthfawr fel wats neu ddarn aur, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd i Nanteos. Penderfynodd un claf gymryd cnoad o'r cwpan mewn gobaith o gael manteisio ar ei werthoedd gwellhad, sydd yn esbonio rhywfaint am gyflwr presennol yr eitem.
Tap to explore
Mae Cwpan Nanteos yn eiddo i ddisgynyddion Poweliaid Nanteos o hyd, ac fe'i cedwir ar hyn o bryd yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle nad yw wedi colli dim o'i apel i'r ymwelydd chwilfrydig.